Gwella Iechyd mae hwn yn rhan o Lwybr y Blynyddoedd Cynnar Dechrau’n Deg / Teuluoedd yn Gyntaf a’i nod yw gweithio â theuluoedd â phlant 0-7 oed. Caiff cefnogaeth ei chynnig i deuluoedd y mae eu hanghenion yn bennaf yn berthnasol i iechyd. Gall y rhaglen hon ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am reoli ymddygiad, trefn a ffiniau a hylendid deintyddol. Mae Ymweliad Iechyd yn wasanaeth cyffredinol sy’n gweithio â phlant 0-4 oed a’u teuluoedd i sicrhau fod pob plentyn yn gallu cyrraedd yr eithaf o ran ei iechyd a lles a chefnogir rhieni a’u galluogi i ddiwallu eu hanghenion eu hunain yn ogystal ag anghenion eu plant. Mae’r tîm iechyd yn cynnwys Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Meithrin Cymunedol, Bydwraig a Therapydd Iaith a Lleferydd.
Teuluoedd â phlant 0-7oed. Ar 5ed pen blwydd y plentyn bydd nyrs iechyd yr ysgol yn rheoli holl anghenion imiwneiddio/iechyd y plentyn
Nac oes
Mae cyfeirio gan Ymweliad Iechyd / Bydwraig yn wasanaeth cyffredinol, er y byddai cyfeirio yn ofynnol ar gyfer Nyrs Meithrin Cymunedol a Therapydd Iaith a Lleferydd
Iaith: Saesneg yn unig
https://familypoint.cymru/flying-start-wales/