Beth rydym ni'n ei wneud
Rydym yn darparu adnoddau ac offer i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i eitemau hanfodol ar gyfer eu babi. Mae bwndeli wedi'u teilwra'n arbennig yn dibynnu ar ofynion y teulu a gallant gynnwys dillad babanod, pethau ymolchi, blancedi, tywelion, cewynnau a dillad gwely. Gellir darparu eitemau eraill yn amodol ar argaeledd h.y. pramiau, cadeiriau gwthio, basgedi Moses, cotiau, baddonau babanod a chadeiriau neidio.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Teuluoedd â babanod hyd at 18 mis oed.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Rydym yn derbyn hunangyfeiriadau ac atgyfeiriadau gan asiantaethau sydd wedi nodi rhiant mewn angen.
Amserau agor
Dydd Llun - Dydd Gwener 9yb - 5yp