Beechwood College - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Coleg Beechwood yn Goleg Addysg Bellach a Chartref Gofal pwrpasol ar gyfer pobl ifanc 18-25 oed ag Awtistiaeth. Mae’r coleg yn cynnig lleoliadau preswyl a dyddiol 38 wythnos tymor ysgol hyd at 52 wythnos. Mae’r Coleg yn cynnig cyfleusterau arbennig o fewn tiroedd hyfryd Bro Morgannwg.

Rydym yn cynnig Cwricwlwm cyflawn a gafaelgar sydd yn diwallu anghenion, cryfderau a diddordebau unigol ein myfyrwyr, gan ffocysu ar addysg sydd yn eu paratoi ar gyfer y dyfodol trwy addysg ysbrydoledig a phwrpasol. Mae ein tîm clinigol, sydd ar y safle, yn cefnogi anghenion therapiwtig a gofal myfyrwyr. Rydyn ni ar y Restr Darparwyr Cydnabyddedig Cyngor Bro Morgannwg.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rydym ar Restr Darparwyr Cymeradwy Cyngor Bro Morgannwg.

Mae Coleg Beechwood yn cynnig cyfleoedd addysgol ysbrydoledig i fyfyrwyr rhwng 18 a 25 oed sydd wedi cael diagnosis o Gyflwr Sbectrwm Awtistig (ASD) a / neu anabledd dysgu. Mae gan rai o’n myfyrwyr anghenion iechyd meddwl cysylltiedig neu anaf ymennydd.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes - Yn nodweddiadol, ariennir lleoliadau myfyrwyr o Gymru gan yr Adran Addysg a Sgiliau ac Awdurdod Lleol yr unigolyn yn dibynnu ar anghenion preswyl. Mae ffrydiau cyllido eraill ar gael fesul achos.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae angen ffurflen atgyfeirio wedi'i chwblhau ar fyfyrwyr.




 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Beechwood House
Hayes Road
Penarth
CF64 5SE

 Gallwch ymweld â ni yma:

Beechwood House
Hayes Road
Penarth
CF64 5SE



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen glyw
  • Lifft
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Cysylltwch â ni i drefnu ymweliad.