Mae gan bob plentyn tair blwydd oed hawl i 10 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar wedi’i ariannu o leiaf, bob wythnos yn ystod y tymor. Bydd yr Addysg hon ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yn cael ei ddarparu yn unrhyw leoliad cyn ysgol sy’n rhan o’r cynllun. Bydd Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn dechrau yn ystod y tymor yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn dair oed.Sicrhewch fod gennych le ar gyfer eich plentyn cyn gwneud cais am y cyllid. Gallwch wneud hyn ar ôl hanner tymor y tymor hwnnw mae eich plentyn yn troi’n dair oed. Am ragor o wybodaeth a’r ffurflen gais gweler y wefan isodOs cafodd eich plentyn ei eni ar ôl 1 Ebrill, byddant yn derbyn Addysg y Blynyddoedd Cynnar mewn dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn y mis Medi canlynol.
Nac oes
Iaith: Dwyieithog
http://www.conwy.gov.uk/cyllidiblant3oed