Cafcass Cymru - De Cymru - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn darparu cyngor a chymorth arbenigol sy’n canolbwyntio ar y plentyn, yn diogelu plant ac yn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed mewn llysoedd teulu ledled Cymru fel bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er eu budd pennaf.

Ni chawn gymryd rhan mewn achos cyfraith teulu ond pan fydd y llys yn gofyn.

Nid ydym yn wasanaeth cyfreithiol ac ni allwn ddarparu cyngor cyfreithiol.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Os ydych yn ansicr â phwy y mae angen i chi gysylltu, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r swyddfa sydd agosaf at y llys lle mae eich achos yn cael ei glywed. Ni allwn ddarparu cyngor cyfreithiol na thrafod achosion ag unrhyw un nad yw yn barti enwebedig yn ein hachosion. Efallai y byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pwy ydych drwy gwestiynau diogelwch pan fyddwch yn cysylltu â ni ynglŷn â’ch achos.

Os oes gennych unrhyw bryderon fod diogelwch neu les plentyn mewn perygl a bod y perygl yn un brys ac angen sylw ar unwaith, cysylltwch â’r heddlu yn uniongyrchol, os gwelwch yn dda.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Os ydych yn ansicr â phwy y mae angen i chi gysylltu, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r swyddfa sydd agosaf at y llys lle mae eich achos yn cael ei glywed. Ni allwn ddarparu cyngor cyfreithiol na thrafod achosion ag unrhyw un nad yw yn barti enwebedig yn ein hachosion.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





 Hygyrchedd yr adeilad