Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae hawliau plant a CCUHP wedi'u hymgorffori yn yr holl waith a wnawn, gydag ymgynghoriadau rheolaidd yn digwydd yn barhaus. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i bartneriaeth ag UNICEF i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n dda i blant.
Mae ein hymgysylltiad â phobl ifanc yn digwydd mewn canolfannau ieuenctid a chlybiau ieuenctid, ar y stryd lle mae pobl ifanc, yn ogystal ag mewn ysgolion a chymunedau. Rydym yn dechrau ymgysylltu mwy mewn mannau digidol, a gallwch ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol amrywiol i gael gwybod mwy. Ni allwn gyflawni gwaith gyda phobl ifanc yn unig, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio a phartneriaethau mewn cymunedau ledled Caerdydd. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy.
Pobl ifanc 11 i 25 oed
Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fater cymdeithasol a gall yr adnodd yma gefnogi lleoliadau addysg fabwysiadu dull system gyfan er mwyn creu amgylcheddau dysgu diogel, er mwyn atal achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion cyn iddynt ddigwydd.