Cylch Ti A Fi Emaus Penuel - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin


Beth rydym ni'n ei wneud

Nod y Cylch Ti a Fi yw cynnig cyfle i rieni a chynhalwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu.

Mae grwpiau Ti a Fi yn darparu gweithgareddau sy'n hyrwyddo datblygiad plant o'r adeg maen nhw'n cael eu geni hyd at oedran ysgol. Mae'n gyfle gwych i rieni/cynhalwyr gwrdd, cymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd plant yn cael y cyfle i:

- fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau newydd
- mwynhau chwarae gyda theganau
- dysgu caneuon Cymraeg syml y mae modd i chi eu canu gyda'ch gilydd gartref
- gwrando ar straeon Cymraeg ac edrych trwy lyfrau
- chwarae gyda dŵr a chlai; a
- mwynhau eu hunain!

Fel rhiant neu gynhaliwr, bydd cyfle hefyd i chi fwynhau'ch hun. Mae croeso i bawb ddod i'r cylchoedd Ti a Fi, hyd yn oed os dydych chi ddim yn siarad Cymraeg neu os ydych chi'n dysgu Cymraeg. Dewch draw i'n gweld i gael rhagor o wybodaeth am fanteision siarad a dysgu Cymraeg, i chi a'ch plentyn.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Babis a phlant o dan 4 oed gyda eu rhiant/gwarchodwr

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes




 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Cylch Ti A Fi Penuel
Festri Eglwys Emaus
Bangor
LL572TE



Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Bore Iau tymor ysgol yn unig 9.15-10.45.
Plant 0-3 oed gyda rhiant.
£2 plentyn cyntaf a £1 plentyn ychwanegol.