Caerdydd u3a - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Os ydych wedi cyrraedd y man lle rydych wedi gorffen gweithio'n llawn-amser neu fagu eich teulu a bod gennych amser i ddilyn eich diddordebau neu i roi cynnig ar rywbeth newydd, mae Prifysgol y Drydedd Oes Caerdydd ar eich cyfer chi. Mae Pri- fysgol y DrydAedd Oes yn fudiad trwy’r DU o grwpiau diddordeb a reolir yn lleol. Mae ein haelodau'n defnyddio eu gwybodaeth a'u profiad i addysgu ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae grwpiau o bobl yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i ddysgu er hwyl am bwnc megis hanes neu ganu, ymarfer iaith neu chwarae gemau cardiau; pobl sy'n credu bod dysgu yn wobr ynddo’i hun.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Oedolion sydd wedi cwblhau prif ran eu bywyd gwaith.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes - Mae ffi aelodaeth flynyddol rhwng £10 a £15. Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf o gyfarfodydd yn codi rhwng £1 a £3 i dalu am y gost o log'ri ystafelloedd.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un sydd wedi cwblhau prif ran eu bywyd gwaith gysylltu â ni yn uniongyrchol.






Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Amryw