Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r ystafell yn gartref wythnosol i grwpiau Bwydo o’r Fron a Thylino Babi, yn ogystal â preifat i aelodau o’r cyhoedd; boed yn grŵp o famau newydd sydd am ddod at ei gilydd am amgylchedd diogel ac ysgogol i’r rhai bach allu cropian o gwmpas a dysgu; neu blant hŷn i ddatblygu eu sgiliau echddygol drwy chwarae; neu brofiad aml-synhwyraidd i’r rheini ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (Plant ac oedolion fel ei gilydd), gall ein Hystafell Synhwyraidd roi lle i bron unrhyw un. Mae yno ddigon o le i gadeiriau olwyn a lle diogel i goets babi. Mae ein staff cyfeillgar ar y safle ar bob adeg i helpu i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.