Cymorth gwaith ieuenctid wedi'i dargedu ar gam atal ac ymyrraeth gynnar. Gallant weithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 10 a 18 oed sy'n gysylltiedig â darpariaeth addysg uwchradd mewn ysgolion a chanolfannau dysgu ledled Sir Gaerfyrddin. Gallant hefyd gynnig cefnogaeth i rieni/gofalwyr a gweithio'n agos gyda'r Tîm o Amgylch y Teulu. Mae eu gwaith yn cynnwys cymorth ynghylch ymddygiad, perthnasoedd, pwysau gan gyfoedion, iechyd, cyfryngau cymdeithasol, gweithgareddau gwyliau, lles ac addysg i alluogi pobl ifanc i gymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau a gwneud dewisiadau mwy gwybodus. Gallant helpu gyda thrawsnewidiadau allweddol yn yr oedran cynradd i'r uwchradd ac wrth adael addysg. Gall hyn gynnwys helpu gyda chymorth cyfeirio at osgoi ymddieithrio a chryfhau'r siawns y bydd pobl ifanc yn cael cyrchfan ar ôl gadael addysg.
Plant oedran ysgol uwchradd a' plant sy'n pontio o gynradd i uwchradd.
Nac oes
Atgyfeirio trwy'r ysgol neu hunan gyfeirio
Iaith: Dwyieithog
https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/addysg-ac-ysgolion/cymorth-ieuenctid/#.X3X2ZmhKjZs