Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Fel gwasanaeth, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o wasanaethau a sefydliadau partner yng Ngheredigion, ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol i ddarparu gweithgareddau cyffredinol i bobl ifanc 11-25 oed. Mae gennym dîm o weithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid, cydlynwyr a swyddi eraill sy'n cyflwyno darpariaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd. Rydym hefyd yn darparu mwy o gymorth wedi’i dargedu lle mae ei angen.
Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fater cymdeithasol a gall yr adnodd yma gefnogi lleoliadau addysg fabwysiadu dull system gyfan er mwyn creu amgylcheddau dysgu diogel, er mwyn atal achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion cyn iddynt ddigwydd.