Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rhieni cymwys sy’n gweithio a myfyrwyr sy’n rhieni i blant tair a phedair oed.
I fod yn gymwys am y Cynnig, mae’n rhaid i bob rhiant:
Fyw yng Nghymru.
Bod â phlentyn tair neu bedair oed.
Ennill llai na £100,000 y flwyddyn.
Cael eu cyflogi ac yn ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw.
Neu eu bod wedi cofrestru naill ai ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd.