Beth rydym ni'n ei wneud
Dysgwch sut i gyfathrebu â'ch babi cyn y gall siarad, mewn dosbarth arwyddo babanod arobryn TinyTalk.
Beth allwch chi ei ddisgwyl mewn dosbarth TinyTalk?
Mae themâu wythnosol fel amser gwely, teulu neu daith i’r parc yn rhoi’r arwyddion sydd eu hangen arnoch i rannu byd y babi a threfn ddyddiol, gan ddefnyddio arwyddion Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dosbarth cerddoriaeth ryngweithiol yn cynnwys hwiangerddi adnabyddus, caneuon actol, cerddoriaeth wedi'u cyfansoddi'n arbennig ac offerynnau
Mae gweithgareddau synhwyraidd ymarferol yn plesio eich babi ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu cyffredinol fel lleisio, gwrando a chymryd tro. Maent hefyd yn ysgogi synhwyrau eich babi, yn annog ei sgiliau olrhain ac yn datblygu ei gydsymud llaw-llygad a sgiliau echddygol manwl
Amser i ymlacio gyda phaned a gwneud ffrindiau newydd tra bod eich babi yn mwynhau amser chwarae cymdeithasol
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Babanod o enedigaeth i 24 mis
Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Oes - Mae dosbarthiadau yn costio £7.50 y dosbarth os yn archebu tymor llawn, neu £8 y dosbarth os yn archebu hanner tymor neu lai.
Mae'r costau fesul teulu - croeso i frodyr a chwiorydd am ddim!
Amserau agor
Caerfyrddin, dydd Iau 10.30-11.30
Llandybie, Dydd Gwener 10.30-11.30
Mae dosbarthiadau yn rhedeg trwy'r tymor yn unig