Beth rydym ni'n ei wneud
Cefnogaeth Ieuenctid mae hwn yn rhan o Lwy Dechrau’n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf.
Mae’r tîm Cefnogi Ieuenctid yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc 10-18 oed a’u teuluoedd ar sail un i un neu mewn grŵp (Gwydnwch). Ymhlith y ffactorau a allai beri i berson ifanc fod ag angen cefnogaeth targedig mae: Cefnogaeth emosiynol, Gwrthodiad ysgol, Ymddygiad gwrthgymdeithasol, Iechyd Meddwl, Hunan niweidio / Ceisio hunan laddiad, Hunan-barch / Hyder, Cam-drin rhywiol/Trais, Profedigaeth, Rheoli Dicter, Bwlio, Amlygiad at brofiadau croes e.e. rhieni’n camddefnyddio sylweddau, gwrthdaro teuluol, carcharu rhiant, trais domestig neu iechyd meddwl gwael gan riant, Dylanwadau negyddol oddi wrth grwpiau cymheiriaid, Perthnasoedd gwael yn y teulu a diffyg cefnogaeth oddi wrth y teulu, Tlodi a beichiogrwydd arddegau.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Pobl ifanc 10 -18 oed a’u teuluoedd
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
• Mae’n ofynnol cael ffurflen gyfeirio oddi wrth Clare Williams yn y Tîm Cefnogi Ieuenctid Ffôn: 01685 724516
clare.williams@merthyr.gov.uk
Manylion am wasanaeth
gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith:
Lleoliad cyfrwng Saesneg
-
Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
No
Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
-
Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Yes
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Gurnos
Merthyr Tydfil
CF47 9SB
Amserau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener 08:00 – 17:00