Nod y Cylch Ti a Fi yw cynnig cyfle i rieni a chynhalwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu yn y Gymraeg Mae grwpiau Ti a Fi yn darparu gweithgareddau sy'n hyrwyddo datblygiad plant o'r adeg maen nhw'n cael eu geni hyd at oedran ysgol. Mae'n gyfle gwych i rieni/cynhalwyr gwrdd, cymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg.Bydd plant yn cael y cyfle i: - fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau newydd - mwynhau chwarae gyda theganau - dysgu caneuon Cymraeg syml y mae modd i chi eu canu gyda'ch gilydd gartref - gwrando ar straeon Cymraeg ac edrych trwy lyfrau - chwarae gyda dŵr a chlai; a - mwynhau eu hunain!Fel rhiant neu gynhaliwr, bydd cyfle hefyd i chi fwynhau'ch hun. Mae croeso i bawb ddod i'r cylchoedd Ti a Fi, hyd yn oed os dydych chi ddim yn siarad Cymraeg neu os ydych chi'n dysgu Cymraeg. Dewch draw i'n gweld i gael rhagor o wybodaeth am fanteision siarad a dysgu Cymraeg, i chi a'ch plentyn.
Rhieni / gwarchodwyr / gofalwyr
Nac oes
Unrhyw un
Cylch Ti A Fi TrawsfynyddYMCATrawsfynyddLL41 4SE