Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Meithrinfa Trysor Bach yn darparu gofal plant i bob plentyn 2-3 oed cymwys, sy’n byw o fewn codau post dynodedig yn ardal Dechrau’n Deg Betws, Rhydaman, am 12.5 awr yr wythnos pob plentyn. Darperir gofal am 2.5 awr y dydd am 5 diwrnod yr wythnos am hyd at 39 wythnos y flwyddyn.
Cynigir lleoedd gofal plant cofrestredig llawn i blant 2 oed o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed i'r tymor pan fyddant yn troi'n 3 oed.