Cymorth i deuluoedd sy'n mabwysiadu ar bob cam o’u taith fabwysiadu.Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn rhiant sy’n mabwysiadu neu’n ystyried mabwysiadu, neu os ydych yn cefnogi teulu sy’n mabwysiadu, cysylltwch â'n swyddfa bwrpasol. Byddant yn eich rhoi mewn cysylltiad â'ch cydgysylltydd cymuned fabwysiadu leol ac yn dweud wrthych am y cymorth sydd ar gael yn eich ardal. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ar bynciau sy’n ymwneud â mabwysiadu yn rhad ac am ddim neu am gost isel. Ymunwch ag Adoption UK i fanteisio ar ystod eang o adnoddau ar-lein ac all-lein ac i ddod yn rhan o gymuned enfawr o deuluoedd sy'n mabwysiadu ledled y DU. Rydym hefyd yn darparu grwpiau i bobl ifanc wedi'u mabwysiadu sydd rhwng 7 a 30 oed.
Rhieni sy’n mabwysiadu ynghyd â'u plant a'u pobl ifanc, pobl sy’n mynd i fabwysiadu ac sy’n cael eu hasesu, a gofalwyr maeth tymor hir.
Mae'n dibynnu - Rydym yn codi tâl am rai digwyddiadau hyfforddi a rhai gwasanaethau cymorth un i un ond mae’r grwpiau cymorth a’r diwrnodau i’r teulu’n rhad ac am ddim. Mae'r llinell gymorth ar gael i unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â mabwysiadu mewn rhyw ffordd.
Gall unrhyw un gysylltu â ni yn uniongyrchol
Iaith: Dwyieithog
Stiwdios Penhevad Stryd PenhevadCaerdyddCF11 7LU
https://www.adoptionuk.org/wales