Mae'r darparwr wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu yn cyfatebol.
Nid oes gennym ddyddiad ar gyfer arolwg diweddar i'r adnodd hwn.
Mae gan yr darparwr yma lleoedd gwag rhan-amser i blant o oedran 5 blynyddoedd a 14 blynyddoedd.
Mae'r darparwr hwn wedi'i gofrestru ar gyfer 100 o leoedd ac mae ganddo staff ar gyfer 75 lle.
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae ein darpariaeth chwarae cymunedol cynhwysol yn cynnig ystod eang o gyfleoedd chwarae rhydd i blant a phobl ifanc gymryd rhan ynddynt, gyda chefnogaeth gweithwyr chwarae hyfforddedig.
Mae’r sesiynau’n rhedeg o adeiladau cymunedol, ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dan do ac awyr agored, gan gynnwys: gemau grŵp, ceginau mwd, gweithgareddau aml-chwaraeon, chwarae synhwyraidd, chwarae blêr, adeiladu den, celf a chrefft, modelu sothach a llawer mwy!
Mae ein sesiynau yn rhai mynediad agored, sy’n golygu bod plant a phobl ifanc yn rhydd i fynd a dod fel y mynnant.
Ariennir y sesiynau hyn yn llawn gan Brosiect Gwyliau Gwaith Chwarae Llywodraeth Cymru.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Plant a phobl ifanc 5 - 14 oed
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae ein cynllun chwarae cymunedol yn agored i unrhyw blant a phobl ifanc 5 - 14 oed.
Rhaid llenwi ffurflen gofrestru gymunedol cyn mynychu: https://forms.office.com/r/nac45wNYHw
Cyfeiriad
Gallwch ymweld â ni yma:
Canolfan Dysgu Cymunedol Palmerston
Cilgant Cadog
CF63 2NT