Rhianta a Chefnogaeth i Deuluoedd Ceredigion- Family Links Rhaglen Magwraeth i Rieni - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae'n helpu oedolion i ddeall a rheoli teimladau ac ymddygiad, ac i ymdrin yn fwy cadarnhaol ac ystyriol â phlant a gydag oedolion eraill. Mae’n cynnig ffordd o edrych ar berthynas a bywyd sy'n iach yn emosiynol i blant ac oedolion.
Fel blociau adeiladu ar gyfer sgiliau iechyd emosiynol a sgiliau meithrin perthynas, mae gan y Rhaglen Feithrin bedair colofn:
• Hunanymwybyddiaeth
• Disgwyliadau priodol
• Disgyblaeth gadarnhaol
• Empathi

Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r canlynol:
Deall pam fod plant yn ymddwyn fel maen nhw
Adnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiad anodd
Ystyried gwahanol agweddau ar ddisgyblaeth
Dod o hyd i ffyrdd o gydweithio â phlant ac o ddatblygu hunanddisgyblaeth y plant
Pwysigrwydd pwyllo ac edrych ar ôl ein hunain.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'r Rhaglen Feithrin i Rieni yn addas ar gyfer rhieni sydd â phlant bach a phlant oed cynradd, ond mae'n addas ar gyfer pob oedran.
Mae 10 sesiwn o ddwy awr gydag egwyl ar gyfer te/coffi.
Gan fod y rhaglen yn adeiladu ar y sesiwn flaenorol, y peth gorau yw mynychu pob un o'r deg sesiwn gan fod y rhaglen yn dod ynghyd fel jig-so.

Cyflwynir y rhaglen mewn ffordd anffurfiol gyda grŵp o tua wyth o rieni.
Agored i unrhyw deulu sy'n byw yng Ngheredigion ac sydd â phlentyn neu berson ifanc. Gallech fod yn rhiant, yn llysfam neu lystad, yn ofalwr neu'n aelod o'r teulu yn gofalu am blentyn.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Agored i unrhyw deulu sy'n byw yng Ngheredigion ac sydd â phlentyn neu berson ifanc. Gallech fod yn rhiant, yn llysfam neu lystad, yn ofalwr neu'n aelod o'r teulu yn gofalu am blentyn. Gall unrhyw un cysylltu â ni

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Staff yn hyderus cefnogi pob teulu.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Cysylltwch â ni: Dydd Llun - Dydd Gwener 9-5.