Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r sesiynau’n addysgiadol, wedi’u cynllunio’n bennaf i ddarparu cymorth, cyngor a gwybodaeth i’r person ifanc a’i deulu ac mae pob un wedi’i deilwra i’w anghenion unigol. Fodd bynnag, byddai sesiynau fel arfer yn cwmpasu:
Addysg am ddiogelwch rhyngrwyd a sut i aros yn ddiogel ar-lein a gyda thechnolegau newydd
Cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth am y materion sy’n wynebu’r person ifanc a’i deulu
Pornograffi oedolion, ‘secstio’ ac ymddygiad peryglus arall ar-lein
Ffeithiau am ba ymddygiad sy'n gyfreithlon ac yn anghyfreithlon
Strategaethau i atal ymddygiad problemus rhag digwydd eto neu waethygu
Mae'r sesiynau'n helpu teuluoedd i gyfathrebu a mynd i'r afael â materion anodd iawn tra'n darparu cefnogaeth i'r person ifanc. Mae teuluoedd yn cael y cyfle i archwilio materion, trafod ymddygiadau a chreu cynlluniau diogelwch teuluol unigol, personol i atal yr ymddygiad rhag digwydd eto neu waethygu.