Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i fod yn iach a hybu eu lles, a galluogi teuluoedd i fod yn hyderus, cefnogol a chryf a chynnal perthnasau iach. Mae’r rhaglen yn cynnwys:Canolfannau Teuluoedd Conwy: Mae gennym ni bump Tîm Cefnogi Teuluoedd lleol yng Nghonwy. Mae rhai o’r rhain yn gweithio yn rhai o’r Canolfannau Teuluoedd. Rydym ni’n darparu cefnogaeth i deuluoedd drwy: Gynnig gwybodaeth a chyngor Grwpiau sydd ar agor i unrhyw un Grwpiau a chyrsiau wedi’u targedu (er enghraifft, cyrsiau rhianta) Cefnogaeth un-i-un gan Weithiwr Teulu Mynediad at gefnogaeth arbenigol arall• Comisiynu: Canfod anghenion lleol a chydweithio â phartneriaid i fynd i’r afael â’r anghenion hyn. • Prosiectau: Ariennir nifer o wasanaethau dan y rhaglen i ddarparu cymorth i deuluoedd diamddiffyn ar draws Gonwy.
Mae Teuluoedd yn Gyntaf Conwy yn cefnogi teuluoedd, plant a phobl ifanc hyd at 25 oed sy’n byw yng Nghonwy.
Nac oes
Gallwch gysylltu â ni trwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Iaith: Dwyieithog
https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Social-Care-and-Wellbeing/Children-and-families/Conwy-Family-Centres/Conwy-Family-Centres.aspx