Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Grwpiau cynenedigol ac ôl-enedigol, bwydo ymatebol, clwb babanod, tylino babanod a diogelwch yn y cartref.
• Negeseuon iaith a mynediad at weithgareddau cartref priodol,
rhaglenni Dewch i Siarad i gefnogi datblygiad iaith, pecynnau Byddwch Yma, Byddwch yn Glir yn ogystal â chymorth fwy arbenigol ar gyfer anhwylderau iaith penodol ym meithrinfa’r ysgol.
• Cymorth i deuluoedd - mae cymorth ymarferol ar gael yn ogystal
â mynediad at raglenni fel Rhieni Fel yr Athrawon Cyntaf, Rhaglen
Datblygu Rhieni a CAMAU at lwyddiant.
• Ymuno a Chwarae, lleoedd â chymorth a chefnogaeth i blant ag anghenion datblygu sy’n dod i’r amlwg i gefnogi datblygiad plant.
• Cymorth sgiliau hanfodol i blant, pobl ifanc ac oedolion i helpu gyda
gweithgareddau dysgu yn y cartref i adeiladu sgiliau llythrennedd, rhifedd
a digidol.
Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar yn dîm amlasiantaeth medrus iawn
sy’n gweithio gyda theuluoedd i adeiladu gwytnwch i gynorthwyo eu
plant i gael y dechrau gorau.