Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Gall pobl ifanc rhwng 11-17 oed gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau yn Sir Conwy. Bydd rhai o'r gweithgareddau gwych sydd i'w gwneud yn y clybiau yn cynnwys: cerddoriaeth, gemau a gweithgareddau awyr agored, celf a chrefft, chwaraeon nad ydynt yn draddodiadol, adeiladu tîm, cyfrifiaduron......Nid yn unig hyn ond mae ein gweithwyr ieuenctid yn mynd yma ac acw o gwmpas yr ardal yn aml a hefyd mae 'na fws ieuenctid yn stopio mewn gwahanol ardaloedd. Wrth gwrs mae 'na lawer o bethau eraill yn digwydd fel tripiau, sesiynau galw heibio lles, teithiau preswyl, DofE (Gwobr Dug Caeredin), Cyngor yr Ifanc a llawer mwy - mae'r rhestr yn hir iawn iawn! Am ragor o wybodaeth cymerwch olwg ar y wefan.