Dechrau'n Deg Ceredigion - Rhaglen Plant Bach Rhyfeddol - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae rhaglen Plant Bach Rhyfeddol yn rhaglen deg wythnos o ddwy awr yr wythnos ac yn cael ei hwyluso gan ddau aelod o staff hyfforddedig. Mae hon yn rhaglen sy’n seiliedig ar dystiolaeth a sefydlwyd i hybu perthnasoedd da rhwng rhiant a phlentyn a chynorthwyo i atal, a thrin problemau ymddygiad, trwy hybu cymhwysedd cymdeithasol, emosiynol ac academaidd cyn i blentyn ddod yn oedolyn. Wedi'u cyflwyno i rieni plant rhwng 18 mis a 4 oed, gellir addasu'r strategaethau a ddysgir fel sylfaen ar gyfer plant hŷn.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rieni o blant rhwng 18 mis a 4 oed.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs 'Family Links' yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Arbennig.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

9-5 Llun-Gwener