Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn cynnig polisi drws agored ac yn awyddus i groesawu unrhyw deuluoedd o ardal Torfaen ac ymhellach i'n plith os oes ganddynt diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant. Mae nifer o'n rhieni yn siaradwyr Cymraeg (rhai wedi bod trwy ein Meithrinfa a'r ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol eu hunain!) ond mae'r rhan fwyaf yn ddi - Gymraeg ond am i'w plant dysgu Cymraeg. Rydym yn cynnig dosbarthiadau dysgu Cymraerg yn y Neuadd Isaf i unrhyw un sydd a diddordeb. Mae'r Meithrinfa yn gweithredu fel cylch chwarae yn ogystal a bod yn Meithrinfa ar gyfer plant 4 oed cyn iddynt symud ymlaen i'r dosbarth derbyn. Mae'r plant yn gallu aros trwy'r dydd dwywaith yr wythnos. Rydym yn dilyn Cwriciwlwm ar gyfer LLeoliadau Nas Gynhelir yng Nghymru. Y peth pwysig yw fod y plant yn dysgu trwy chwarae. Mae'r plant yn chwarae rhan fawr wrth ddewis gweithgareddau, adnoddau, offer ac ati tu fewn a thu allan. Y plant sydd yn bwysig!