Camau Nesaf - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Camau Nesaf yn brosiect ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sy’n wynebu neu wedi wynebu heriau yn eu bywydau. Mae’r prosiect 16-wythnos (1 diwrnod yr wythnos) yn cynnig cymorth i hyd at 7 o bobl ifanc ar y tro a’r nod yw rhoi hwb i’w hyder a’u hunan-barch, datblygu sgiliau newydd, cyfarfod pobl newydd a mynd allan a chael hwyl mewn amgylchedd braf.

Beth sy’n gysylltiedig
• Celf a chrefft, uwchgylchu, paentio murlun, coginio a phobi
• Sesiynau iechyd a lles – chwaraeon a ffitrwydd, ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar
• Gweithgareddau rheoli arian ac adeiladu ­m
• Cymorth un i un gyda phroblemau rydych yn delio â nhw yn eich bywyd personol o bosibl

Yn ogystal â gweithgareddau wyneb yn wyneb, gallwn gynnig cymorth ychwanegol ar-lein neu dros y ffôn

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

POBL IFANC
Beth gallwn ei gynnig i bobl ifanc sy’n cymryd rhan
yn y Prosiect
1 diwrnod yr wythnos
• Cyfle i roi cynnig ar bethau newydd
• Darganfod hobi newydd a thalentau cudd
• Cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd
• Gallech ennill cymhwyster heb sylweddoli hynny!
• Darperir cinio, cludiant i’w drafod/ei drefnu.

Sut gallaf ymuno neu wneud cais i gymryd rhan yn y prosiect?
Er mwyn ymuno â’r prosiect, gall pobl ifanc naill ai gyfeirio eu hunain neu gael eu cyfeirio gan eu rhieni/gwarcheidwaid neu unrhyw sefydliadau neu asiantaethau maent yn derbyn cymorth ganddynt yn awr, neu yn y gorffennol. I wneud hyn neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Lisa Jones,
lisa.jones@groundworknorthwales.org.uk or Adam Smith
adam.smith@groundworknorthwales.org.uk neu ffoniwch 01978 757524.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall pobl ifanc naill ai gyfeirio eu hunain neu gael eu cyfeirio gan eu rhieni/gwarcheidwaid neu unrhyw sefydliadau neu asiantaethau maent yn derbyn cymorth ganddynt yn awr, neu yn y gorffennol






Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad