Beth rydym ni'n ei wneud
Rydyn ni’n rhoi cymorth i deuluoedd â phlant rhwng 0-18 ledled Bro Morgannwg, er mwyn adeiladu ar gryfderau a chyflwyno newidiadau cadarnhaol a galluogi rhieni i deimlo’n fwy hyderus wrth reoli ymddygiad, trefniadau dydd i ddydd a ffiniau. Rydyn ni’n canolbwyntio ar hybu lles emosiynol a chefnogi perthnasoedd teuluol cadarnhaol.
Rydym yn cynnig rhaglenni rhianta mewn sesiynau grŵp neu ymyriadau 1:1 yn unol â dymuniadau’r teulu o ran y prif gymorth sydd ei angen.
Mae grwpiau rhianta yn cynnwys: Blwyddyn Gyntaf Babi, Rhaglen faethu, Delio gydag Ymddygiad Plant, Delio gydag Ymddygiad yr Arddegau,
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni rydym yn eu cynnig, ewch i’n tudalen we ‘Rhaglenni Rhianta’ (gweler y manylion cyswllt)
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rhieni a gofalwyr â phlant rhwng 0-18 oed sy’n byw ym Mro Morgannwg.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Cysylltwch â Llinell Gymorth Teuluoedd yn Gyntaf ar 0800 0327 322 i gael eich atgyfeirio at Wasanaeth Rhianta’r Fro.
Amserau agor
Gallwch gysylltu â ni ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4:30pm.