Ti a Fi Ysgol Sant Baruc - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin


Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn croesawu pob unigolyn gyda breichiau agored i’n Cylchoedd Ti a Fi gan ein bod yn credu fod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu Cymraeg a dylid rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn wneud hynny.

Mae’r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle ichi a’ch plentyn gwrdd yn rheolaidd gyda rhieni/gwarchodwyr a phlant eraill er mwyn i’r plant gael cyfle i fwynhau chwarae gyda’i gilydd gan roi cyfle ichi gymdeithasu dros baned neu ddisgled o de! Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig. Rydym fel un teulu mawr!

Wrth fynd i’r Cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i:

fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau bach newydd
chwarae gyda phob math o deganau
dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref
gwrando ar storiau


… a joio!

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rhieni a gofalwyr a'u plant cyn ysgol (0-4)

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu â ni.






Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Ysgol Sant Baruc
Ffordd y Mileniwm

Dydd Gwener yn ystod Amser Tymor

9.15 - 10.15
9.15- 10.15