Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rydym yn darparu cyllid Dechrau’n Deg, Addysg Blynyddoedd Cynnar, y cynnig gofal plant i Gymru (30 awr) a chyllid lleoedd a gynorthwyir a lleoliadau a delir ar gyfer pob plentyn 2-4 oed.
Rydym yn cefnogi plant i ddatblygu’r hyder a’r teimlad o fod yn ddiogel i archwilio eu hamgylchedd, datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda staff a datblygu eu sgiliau, mewn amgylchedd sy’n eu hannog i ganfod pethau newydd, chwarae, cael hwyl a chwerthin.