Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r Gwasanaeth Ymyriadau Ieuenctid yn dîm o fewn y Gwasanaeth Ieuenctid sy’n delio â phobl ifanc a gyfeiriwyd atynt. Mae’n cynnig ymyrraeth gynnar, help a chefnogaeth i bobl ifanc rhwng 11 – 18 oed sy’n agored i niwed a’u teuluoedd ym Mhowys. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud gan weithwyr ieuenctid profiadol sydd wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol. Bydd rhieni, gofalwyr a phobl ifanc sydd eisiau help yn gallu cyfeirio eu hunain trwy’r Tîm o Amgylch y Teulu.
Mae’r Gwasanaeth Ymyriadau Ieuenctid hefyd yn gyfrifol am brosiect ‘Cynnydd’ sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’n rhoi cyfle i ni gynnig cefnogaeth ac arweiniad i fwy o bobl ifanc ym Mhowys a lleihau’r posibilrwydd o fod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wrth adael ysgol. Mae meini prawf penodol i’r prosiect hwn a bydd pobl ifanc yn gallu manteisio ar y cynllun drwy ein gwaith gydag ysgolion uwchradd.