Meithrinfa Pontsenni / Sennybridge Nursery - Meithrinfeydd mewn ysgolion


Beth rydym ni'n ei wneud

Croeso i Feithrinfa Pontsenni/Sennybridge Nursery. Rydym yn feithrinfa fach a chyfeillgar wedi'i lleoli ar safle Ysgol Gynradd Pontsenni. Rydym yn lleoliad dwyieithog sy'n cynnig sesiynau addysg yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rydym yn cydweithio'n agos gyda Ysgol Gynradd Pontsenni. Rydym yn ganolbwynt i'r gymuned leol, lle mae cyfeillgarwch cyntaf yn cael eu ffurfio i blant a chyfeillgarwch newydd i'w gofalwyr. Ein nod yw darparu profiad blynyddoedd cynnar cyflawn lle gall disgyblion fwynhau safon uchel o ofal ac addysg.

Rheolir y lleoliad gan arweinydd y lleoliad, unigolion cyfrifol a Chyngor Sir Powys. Mae wedi'i gofrestru ac yn cael ei fonitro gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Dysgwch fwy am Leoliadau a Ariannir ar gyfer Blynyddoedd Cynnar: www.powys.gov.uk/en/schools-students/apply-for-a-school-place/early-years-funded-education/ @PowysFp

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rydym yn leoliad meithrin wedi'i seilio yn yr ysgol ar gyfer plant 3 a 4 oed sydd â hawl i fynychu darpariaeth addysgol. Rydym yn cynnig cynllun gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru (10 awr o Addysg a 20 awr o ofal plant). https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign

Ein nod yw darparu gofal ac addysg i hyd at 24 o blant, trwy gyfrwng y Saesneg a'r Gymraeg.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes




 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Sennybridge
Brecon
LD3 8RS



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad
  • Croeso i fwydo ar y fron
  • Cyfleusterau newid babanod

 Amserau agor

Oriau meithrin 09.15 i 15.15 Dydd Llun i Ddydd Gwener (Amser tymor yn unig)