Mae'r Tîm Cynhwysiant yn rhan o'r gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Rydym yn cynnig cyngor, cymorth ac arweiniad ynghylch materion lles, presenoldeb, ymgysylltu a chynhwysiant i ddisgyblion, rhieni, ysgolion ac asiantaethau perthnasol eraill. Mae dyletswyddau statudol yn cynnwys gorfodi presenoldeb trwy'r broses gyfreithiol h.y. erlyn pan nad yw ymyrraeth yn gwella sefyllfa, darparu cyngor ac arweiniad o ran Cyflogaeth Plant (rhoi trwyddedau gwaith), Plant mewn Adloniant h.y. Trwyddedu Perfformiad (rhoi trwyddedau perfformiad) a thrwyddedu Hebryngwyr. Nod y Gwasanaeth yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn y Fro yn gallu cyflawni eu potensial addysgol.
Plant ysgol statudol, h.y. y rhai 5 i 16 oed, a’u rhieni/gofalwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ac ysgolion cysylltiedig eraill.
Nac oes
Oes. Gall rhieni, ysgolion ac asiantaethau perthnasol wneud cyfeiriadau.
Vale Of Glamorgan CouncilCivic OfficesBarryCF63 4RU
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/Index.aspx