Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Gallwch fynychu os ydych chi’n rhiant sy’n disgwyl babi rhwng dechrau’r beichiogrwydd a 26 wythnos, gan obeithio y byddwch chi’n cwblhau’r grŵp erbyn yr adeg rydych chi’n 34 wythnos.
Nid oes rhaid i chi fod wedi cael diagnosis gorbryder nag iselder er mwyn i chi allu cymryd rhan yn y cynllun, gallwch ymuno os:
Yw eich beichiogrwydd chi, neu feichiogrwydd eich partner wedi gwneud i chi feddwl am brofiadau anodd yn eich gorffennol.
Mae gennych chi deimladau cymysg am y beichiogrwydd, sydd wedi achosi i chi fod mewn hwyliau isel neu i fod yn bryderus.
Rydych yn poeni am feichiogrwydd blaenorol, a sut effaith a gafodd arnoch chi a’r teulu.
Rydych y tu allan i rwydweithiau cefnogi teuluol/cymdeithasol.
Os ydych chi wedi profi gorbryder neu iselder yn y gorffennol a/neu os ydych chi’n poeni am Iselder Ôl-enedigol.
Rydych chi’n teimlo dan straen neu jest ‘ddim yn iawn’