Water Babies North Wales - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae ein rhaglen nofio wedi’i datblygu i feithrin hyder a sgiliau eich plentyn yn y dŵr yn ystod eu pum mlynedd gyntaf. Mi fyddwch wrth eich bodd gweld eich plentyn yn datblygu o gael hwyl yn arnofio, cicio a sblasio i nofio’n annibynnol.

Nid yn unig y bydd eich plentyn yn datblygu sgiliau dŵr allweddol, byddwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’w galluogi nhw i gadw’u hunain yn ddiogel. Erbyn diwedd eu siwrnai gyda ni bydd eich plentyn yn gallu nofio’n annibynnol i’r ochr a dringo allan yn ddiogel lle bynnag maen nhw.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl eu bod nhw’n dysgu gan y goreuon. Mae ein hathrawon nofio yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 Swim England - does dim cymhwyster uwch na hwn i’w gael. Mae ein hathrawon yn angerddol am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac maen nhw yno i arwain eich plentyn ar bob cam o’u siwrnai nofio..

Mae popeth sy’n cael ei ddysgu yn y dŵr wedi’i strwythuro i gefnogi eu datblygiad yn gorfforol, yn ddeallusol ac yn emosiynol

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Babanol a phlant bach rhwng 0 - 5 oed.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes - Oes - £19.50 y sesiwn gyda thaliadau’n cael eu gwneud drwy Ddebyd Uniongyrchol ar ddiwrnod cyntaf y mis.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae croeso i unrhyw un ddod i’n sesiynau.






Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch

 Amserau agor

Mae’r dosbarthiadau’n cael eu cynnal 7 diwrnod yr wythnos. Ewch i’n gwefan am fwy o fanylion.
.