Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Cynnig gwasanaeth cyfrinachol a chyfeillgar, a ddarperir ar draws 3 sir (Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint), byddwn yn darparu gwasanaethau ac ymyriadau a fydd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
• Darparu asesiadau o angen; asesu teuluoedd mewn ffordd gyfannol o ran camddefnyddio sylweddau ond hefyd asesu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn y cartref
• Darparu amrywiaeth o ymyriadau penodol i deuluoedd sy’n cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau, meithrin cydnerthedd, hunan-barch a datrys problemau
• Cefnogaeth 1-1 sy’n helpu plant/phobl ifanc i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol camddefnyddio sylweddau ar eu bywydau
• Darparu cyfleoedd i gael cymorth grwpiau a chyfoedion i blant/phobl ifanc ddatblygu rhwydweithiau cymorth cynaliadwy a lleihau’r teimlad o fod ar eu pen eu hunain
• Darparu ymyriadau magu plant sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau
• Adnabod a rheoli risgiau – deinamig a sefydlog
• Cyngor, gwybodaeth & ymwybyddiaeth i deuluoedd