Nod y Gwasanaeth Atal yw cefnogi a gweithio gyda phobl ifanc 8 i 17 oed yr ystyrir eu bod mewn perygl o droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Atal Mae cyfarfodydd achos yn cynnwys nifer o gynrychiolwyr o wahanol asiantaethau (e.e. yr heddlu, ysgolion, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol) gyda'r pwyslais ar sicrhau bod plant a'u teuluoedd, cyn gynted â phosibl, yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd.Bydd gan bobl ifanc ymarferydd dynodedig a fydd yn asesu eu hanghenion ac yn llunio cynllun unigol gyda'r person ifanc, ei deulu ac ymarferwyr eraill sy'n ymwneud â darparu cymorth. Yn ogystal â chydnabod a seilio'r ymyriad ar y cryfderau y gellir adeiladu arnynt i gefnogi penderfyniadau gwell, bydd camau gweithredu ar y cynllun hefyd yn mynd i'r afael ag ymddygiadau sy'n effeithio ar eraill.Mae cymorth hefyd ar gael i rieni a allai fod yn ei chael hi'n anodd rheoli ymddygiad negyddol eu plentyn.
Pobl ifanc rhwng 8 a 17 oed a allai fod mewn perygl o gymryd rhan mewn ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol.
Nac oes
Yes
Iaith: Dwyieithog
Vale Of Glamorgan Council91 Salisbury RoadBarryCF62 6PD
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/living/social_care/children_and_young_people/Youth-Jusitce-and-Early-Support-Service.aspx