Dysgu Gydol Oes - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod eang o gyrsiau byr, rhan-amser wedi'u hanelu at ddatblygiad personol a phroffesiynol ar lefelau ac amseroedd sy'n addas i bawb.
Mae llawer o'n cyrsiau'n cael eu cynnal trwy ddysgu o bell sy'n rhoi'r hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble rydych chi eisiau.
Mae ein tiwtoriaid cymwys a phrofiadol yn darparu adnoddau astudio hygyrch ac maent wrth law i gynnig hyfforddiant ac arweiniad arbenigol.
Diolch i gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gall Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth ganiatáu i ddysgwyr cymwys sy'n byw yng Nghymru astudio ein cyrsiau byr yn rhad ac am ddim.
Gall unigolion na fyddai fel arall yn cael mynediad i addysg uwch fanteisio ar y cyfle rhad ac am ddim hwn i ennill sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau gwerthfawr.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae dysgu gydol oes ar gyfer pawb!

Diolch i gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gall Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth ganiatáu i ddysgwyr cymwys sy'n byw yng Nghymru astudio ein cyrsiau byr yn rhad ac am ddim.
Gall unigolion na fyddai fel arall yn cael mynediad i addysg uwch fanteisio ar y cyfle rhad ac am ddim hwn i ennill sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau gwerthfawr.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu â ni'n uniongyrchol




 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Prifysgol Aberystwyth
Adeilad Cledwyn
Aberystwyth
SY23 3DD



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Rydym ar agor rhwng 8.30am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.