Y Brifysgol Agored - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Y Brifysgol Agored yw'r darparwr addysg uwch i israddedigion rhan amser mwyaf yng Nghymru. Mae'n arweinydd byd gan gynnig cyfleoedd dysgu o bell hyblyg ac arloesol ar lefel addysg uwch.

Rydym yn gweithio mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru i agor cyfleoedd dysgu i bobl.

Mae ein gwaith yn y gymuned yn canolbwyntio ar y rheiny na chânt yn draddodiadol gynrychiolaeth ddigonol, fel y rhai sy'n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, gofalwyr a phobl anabl.

Mae model Y Brifysgol Agored o ddarparu addysg uwch yn golygu y gallwn gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n wahanol i brifysgolion eraill. Nid oes angen cymwysterau arnoch i astudio gyda'r Brifysgol Agored sy'n golygu ein bod yn agored i bawb.

Mae ein partneriaethau yn hanfodol er mwyn i ni gyrraedd myfyrwyr a allai gael budd o astudio gyda ni. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau i gynnig nifer o gyfleoedd dysgu hyblyg er mwyn darparu'r camau dilynol i addysg uwch.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Pawb:

-Mae dros 7000 o fyfyrwyr ledled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd.
-Mae myfyrwyr Y Brifysgol Agored ym mhob un o etholaethau Cynulliad Cymru.
-Mae mwy na saith o bob deg o fyfyrwyr Y Brifysgol Agored mewn cyflogaeth tra'u bod yn astudio.
-Mae mwy na phedwar o bob deg myfyriwr israddedig Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn cofrestru heb gymwysterau lefel mynediad addysg uwch safonol.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes - Mae ffi pob cwrs yn ddibynnol.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu a ni'n uniongyrchol.






Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad