Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn agored i unrhyw deulu sy’n byw yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyster canlynol:
Mae eich plentyn yn 3 - 4 oed;
Rhaid i rieni /cyplau sy'n cyd-fyw fod yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant mewn teulu dau riant, neu'r unig riant mewn teulu rhiant unigol;
Rhaid i chi ennill isafswm wythnosol sydd gyfwerth ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol;
Neu fod yn derbyn budd-daliadau penodol, ar yr amod bod y rhiant arall yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd (gweler eithriadau isod);
Ennill llai nag uchafswm £100,000 y flwyddyn fesul rhiant;
Os oes gennych chi bartner sy'n byw gyda chi, mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fodloni'r meini prawf.
Mae rhai eithriadau cymhwysedd yn berthnasol.