Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn cynnig sesiynau rhianta diddorol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol. Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn gweithio gydag amrywiaeth o wasanaethau ar draws Ceredigion er mwyn cynnig amrediad o raglenni rhianta sy'n addas i anghenion unigol rhieni, boed hynny dan drefniant un i un neu mewn grwpiau.Mae Sêr Bychain yn croesawu babanod o'u genedigaeth nes byddant yn 10 mis oed, a'u rhieni, i fwynhau sesiwn wythnosol o weithgareddau hwyliog ar gyfer babanod. Mae'n gyfle gwych i gyfarfod rhieni a babanod eraill ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau hwyliog a chyffrous a gynigir gennym. Bydd babanod yn cael hwyl trwy archwilio, canu, treulio amser ar eu bol a chyfarfod babanod eraill.Yn ystod yr 8 wythnos, byddwn yn archwilio'r materion canlynol;• Chwarae synhwyraidd• Straeon a chanu• Chwarae blêr• Basgedi trysor• Diddyfnu – cael hwyl gyda bwyd• Cwsg
Rhieni a gofalwyr sydd â babanod o enedigaeth i 10 mis oed.
Nac oes
Gall unrhyw un cysylltu gyda ni
Iaith: Dwyieithog
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/