Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Caiff Paid Cyffwrdd — Dweud! a Paid Yfed — Meddylia! ei ariannu’n llawn gan y Bwrdd cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau ac mae’n ymateb i bryderon ynghylch y peryglon posibl i bobl ifanc sy’n gysylltiedig â thaclau chwistrellu sydd wedi’u defnyddio a’u taflu. Mae’r rhaglen yn targedu plant ysgolion cynradd, ac yn defnyddio cymeriadau megis 'Charlie’ i addysgu ynghylch peryglon posibl cyffwrdd nodwyddau sydd wedi’u taflu ac ati, a datblygiad strategaeth ‘cadw’n ddiogel’ ar gyfer pobl ifanc.