Mae gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd Torfaen yn bwynt mynediad canolog a chyfrinachol. Thrwyddo ceir gwybodaeth yn rhad ac am ddim a honno’n wybodaeth ddiduedd ar nifer o wasanaethau gofal o safon uchel ac am brisiau rhesymol i deuluoedd; hefyd geir wybodaeth am wasanaethau eraill sydd ar gael ym Môn i blant a phobl ifanc.Ar y naill law rydym yn cadw gwybodaeth am yr holl wasanaethau gofal cofrestredig yn ein dalgylch ond hefyd ceisiwn sicrhau cymaint o wybodaeth ag y bo’n bosib am wasanaethau heb eu cofrestru.Nid ydym yn cymeradwyo nac yn argymell mathau penodol o wasanaeth; ein pwrpas yw rhoi gwybodaeth berthnasol am bob gwasanaeth fel cymorth i rieni a gofalwyr gwrdd ag anghenion yr unigolyn. Y nod yw darparu gwybodaeth gywir, sy’n gyfoes ac yn ddiduedd am y gwasanaethau gofal ac addysg gynnar i blant a phobl ifanc.
Gwasanaeth sydd ar gael i rieni, gofalwyr, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled Torfaen.
Nac oes
Gall unrhyw un gysylltu a ni'n uniongyrchol.
Iaith: Dwyieithog
https://torfaenfis.org.uk/