Mae TAF yn ffordd o weithio sy'n dod ag asiantaethau ynghyd i gyflwyno cynllun cymorth i deulu, plentyn neu berson ifanc hyd at 25 oed. Mae pob prosiect Teuluoedd yn Gyntaf yn gweithio gyda dull TAF. Y Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) – cwblheir offeryn asesu safonol gyda theuluoedd. Fe'i defnyddir ar gyfer cynllunio camau gweithredu ac i ddangos canlyniadau gwell. Gall Gweithiwr Allweddol Tîm o Amgylch y Teulu o unrhyw brosiect gymryd y rôl arweiniol, gan weithio gyda theuluoedd fel bod gwasanaethau’n cael eu cydgysylltu ac yn diwallu anghenion y teulu. Mae’r Tîm TAF yn hwyluso’r ymagwedd hon:• Mae Cydlynwyr TAT yn dyrannu neu'n hwyluso pecyn cymorth.• Mae Gweithwyr Uniongyrchol TAF yn gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd tuag at ganlyniad a nodwyd.
Plant, Pobl Ifanc (0-25 a Theuluoedd
Nac oes
Atgyfeiriadau trwy ffurflen Cais am Gymorth ar-lein
Iaith: Dwyieithog
https://fis.carmarthenshire.gov.wales/tim-o-amgylch-y-teulu/?lang=cy