Grwpiau Rhianta Dechrau'n Deg Ceredigion – sesiynau rhianta diddorol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol.Mae GroBrain yn archwilio cyswllt, emosiynau y bydd rhieni a babanod yn eu profi, a datblygiad yr ymennydd. Dros y 4 wythnos, bydd y sawl a fydd yn mynychu'r cwrs yn ystyried materion a fydd yn cynnwys:- Sut y dylanwadir ar yr ymennydd gan brofiadau a pherthnasoedd cynnar.- Effaith straen ar ymennydd baban.- Sut i fod yn ymwybodol o giwiau a signalau eich baban, gan ymarfer ffyrdd o gysuro baban.- Sut i reoli emosiynau eich baban.- Sut i feithrin cyswllt gyda'ch baban.- Tylino babanod.- Argymhellir eich bod yn mynychu'r bedair sesiwn er mwyn manteisio i'r eithaf ar y rhaglen. - Mae croeso i chi fynychu'r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy'n eich cynorthwyo wrth roi gofal i chi a gofal ar gyfer eich plentyn.- Cyflwynir y rhaglen hyd at 8 rhiant.
Grŵp ar gyfer rhieni neu ofalwyr y mae ganddynt blant 0-12 mis oed yw GoBrain.#Dechrau'nDegCeredigion #ODan5Ceredigion #CeredigionPaenting
Nac oes
Anyone who has children
Iaith: Dwyieithog
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/