Beth rydym ni'n ei wneud
Rydyn ni'n wasanaeth addysg i bob person ifanc 11-25 oed ond, yn wahanol i ysgolion, mae gennym ni berthynas anffurfiol, wirfoddol gyda phobl ifanc.
Rydyn ni'n darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau sy'n amrywio o gael hwyl a chwrdd â ffrindiau newydd i roi cynnig ar weithgareddau newydd, cael cymorth o ran heriau a chymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael hwyl, yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi a bod yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn cael ei ystyried, a'u bod nhw'n dysgu, yn cyflawni, ac yn dyheu am wneud yn dda ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
#GwasanaethIeuenctidCaerffili #ClwstwrYDe #ClybiauIeuenctid
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Pobl ifanc 11–25 oed
Cyfeiriad
Gallwch ymweld â ni yma:
Parc Virginia
Caerfilli
CF83 3SW
Amserau agor
Mae Canolfan Ieuenctid Parc Virginia ar agor
Dydd Iau 5.45pm - 7.45pm
Clwb Cymraeg Dydd Mawrth 5.00pm - 7.00pm
Sesiynau wedi'u targedu/wedi'u hatgyfeirio
Dydd Mercher