Gweithwyr Ieuenctid Mynediad Agored Powys - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Tîm (GIP) yn cynnig ystod eang o wasanaethau i bobl ifanc 11-25 mlwydd oed ar draws Powys gyfan a gyflwynir gan dîm ymroddedig o weithwyr ieuenctid o amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiadau sydd â chymwysterau proffesiynol. Mae’r tîm yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynnig gwasanaeth o’r ansawdd uchaf cyn gymaint ag y medrwn i’r bobl ifanc yr ydym yn gweithio â hwy sy’n seiliedig ar eu hanghenion a’u dymuniadau. O ystyried y ffaith fod ein gwasanaethau wastad yn rhai gwirfoddol ac wedi’u teilwra i fod mor benagored ar gyfer yr unigolyn ifanc hwnnw ag sy’n bosibl, nid yw’n syndod fod aelodau ein tîm yn gallu meithrin perthnasoedd proffesiynol allweddol gyda’r bobl yr ydym yn gweithio gyda hwy yn ein Hybiau ac Ysgolion, gan roi dealltwriaeth unigryw o’r unigolyn ifanc hwnnw yn aml i’r gweithiwr ieuenctid a gwybodaeth well i deilwra gwaith i weddu i’w hanghenion unigol dros gyfnod sylweddol o amser a fydd yn arwain at ddeilliannau positif.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae GIP yn cynnig clybiau mynediad agored yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Drenewydd, Y Trallwng ac Ystradgynlais sydd fel arfer ar agor am 2 sesiwn yr wythnos yn ystod y tymor ysgol. Mae cyfleusterau unigryw gan bob clwb ac maent yn creu rhaglen drwyadl o weithgareddau ar gyfer pob tymor ysgol mewn ymgynghoriad agos ag aelodau’r clwb sy’n cael eu hannog i ddewis gweithgareddau y maent yn gwybod y byddant yn ei fwynhau ac yn cynnwys ystod eang o weithgareddau, digwyddiadau a mwy yn seiliedig ar ein cwricwlwm craidd. Mae gweithiwr ieuenctid GIP ymroddedig ynghlwm â phob campws Ysgol Uwchradd ym Mhowys, fel arfer ar gyfer deuddydd yr wythnos sy’n cynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd pwrpasol i grwpiau ac unigolion ar draws amrywiaeth eang o faterion a meysydd, ynghyd â sesiynau galw heibio yn ystod adegau egwyl ac amseroedd cinio.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Mae’r Hybiau yn codi tâl aelodaeth bychan ar gyfer y sesiynau nos a gweithgareddau ychwanegol yn y gwyliau. Edrychwch ar eich hyb agosaf am ragor o wybodaeth ar weithgareddau a chostau.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae ein Hybiau yn agored i bob unigolyn Ifanc yn yr ardal. Mae aelodau’r tîm a leolir mewn Ysgolion yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc unigol a all hunangyfeirio neu gael eu hatgyfeirio trwy’r adrannau lles a gofal bugeiliol. Mae’r sesiynau galw heibio yn ystod amser cinio yn agored i holl aelodau’r ysgol.

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Dwyieithog

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae’r tîm yn cymryd ei rôl wrth eirioli dros bobl ifanc o ddifrif a gwneir pob ymdrech i sicrhau fod pobl ifanc, beth bynnag fo eu cefndir ac ati, yn cael eu trin yr un fath ond yn cael cyfle cyfartal gyda’r holl wasanaethau a ddarparwn. Gall gweithwyr ieuenctid helpu gyda chefnogaeth gymdeithasol ac emosiynol i bobl ifanc, ochr yn ochr ag asiantaethau proffesiynol eraill.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am -5pm ar gyfer y swyddfa.
Edrychwch ar y tudalennau gweithwyr Ieuenctid a chlybiau unigol ar gyfer eu hamseroedd.