Prosiect Sbectrwm Stori - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Prosiect Sbectrwm yn rhaglen Cymru gyfan sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei darparu gan athrawon profiadol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r gweithdai dwyieithog, sy’n rhad ac am ddim, wedi’u cysylltu’n agos â’r cwricwlwm ac maent yn hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach. Maent hefyd yn codi ymwybyddiaeth am faterion cam-drin domestig, trais rhywiol a thrais yn erbyn menywod ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae’r gweithgareddau diddorol hyn wedi’u cynllunio er mwyn peri i rywun feddwl ac i hyrwyddo trafodaeth ymhlith cyfoedion, ond nid yw’n fwriad i ennyn emosiwn a fydd yn achosi gofid.ymhlith cyfoedion ond nid yw'n fwriad i ennyn emosiwn a fydd yn achosi gofid.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae Prosiect Sbectrwm yn darparu sesiynau addas i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Gymru. Mae diwedd bob sesiwn yn darparu gwybodaeth i bobl ifanc o ran lle y gallant gael help a chefnogaeth yn yr ysgol a thu hwnt. Gall Sbectrwm darparu hyfforddiant ar gyfer staff a llywodraethwyr yr ysgol ynglyn a deal effaith cam-drin domestig ar blentyn ac yn codi ymwybyddiaeth trwy edrcyh ar ddull ysgol gyfan i fynd i'r afael a cham-drin domestig.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru defnyddio'r adnodd.




 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Stephens Way
Carmarthen
SA31 2BG



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun: 09:00 - 17:00
Dydd Mawrth: 09:00 - 17:00
Dydd Mercher: 09:00 - 17:00
Dydd Iau: 09:00 - 17:00
Dydd Gwener: 09:00 - 16:30
Dydd Sadwrn: Ar gau
Dydd Sul: Ar gau