Beth rydym ni'n ei wneud
Datblygiad Iaith Cynnar mae hwn yn rhan o Lwybr y Blynyddoedd Cynnar Dechrau’n Deg / Teuluoedd yn Gyntaf i ddarparu teuluoedd nad ydynt yn Dechrau’n Deg â chefnogaeth o ran datblygu iaith cynnar.
Beth am Siarad â’ch Babi i rieni/ gofalwyr â babis 3-6 mis, annog hybu rhyngweithio cadarnhaol rhwng oedolyn a phlentyn cyn gynhared â phosibl; hyrwyddo ymlyniad cynnar, darparu amgylchedd sy’n gyfoethog o ran ysgogiad a chyfathrebu gyda gweithgareddau rhyngweithiol llawn hwyl.
Mae dy Fabi’n Anhygoel i rieni/ gofalwyr â babis 6-12 mis oed, cwrs rhyngweithiol â llawer o weithgareddau ymarferol llawn hwyl.
Archwilwyr Bach i rieni/ gofalwyr â babis 9-12 mis, yn darparu amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl ac ysgogiad i rai bach gael archwilio eu synhwyrau a hefyd annog eu lleferydd a sgiliau cyfathrebu.
Rhythm ac Odl i rieni/gofalwyr â phlant bach 15-18 mis, dosbarth cyfeillgar llawn hwyl ble gall rhieni/gofalwyr a phlant bach fwynhau archwilio cerddoriaeth a symudiad gyda’i gilydd.(
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Teuluoedd â phlentyn / plant 0-2 oed
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Cyfeirio gan Ymwelydd Iechyd neu broffesiwn arall y blynyddoedd cynnar
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Duffryn Road
Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4BJ
Amserau agor
Dydd Llun - Dydd Iau 09:00 - 17:00