Beth rydym ni'n ei wneud
Mae PentrePeryglon yn elusen annibynnol ac yn ganolfan gweithgareddau sgiliau bywyd i addysgu pobl am sut i osgoi peryglon, damweiniau ac anafiadau, a’u helpu i fod yn ddiogel. Mae'n safle addysgu ac ymweld pwrpasol gyda chyfres o senarios diogelwch cyffrous, rhyngweithiol a realistig yn canolbwyntio ar amgylchedd critigol lle mae diogelwch yn holl bwysig. Gall ymwelwyr ddysgu am ddiogelwch yn y cartref, ar y ffyrdd, y traeth a’r rhyngrwyd a llawer mwy.
Nod PentrePeryglon yw rhoi'r sgiliau bywyd, ymddygiad a gwybodaeth i blant, pobl ifanc ac aelodau diamddiffyn eraill y gymuned i fod yn ddiogel, i osgoi unrhyw beryglon diangen ac i fwynhau bywydau iach. Mae PentrePeryglon hefyd ar agor yn ystod gwyliau'r ysgol ar gyfer Ymchwil y Ditectif Peryglon a Helfa Drysor yn ogystal â digwyddiadau arbennig drwy gydol y flwyddyn.
Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Oes - Cysylltwch am fanylion
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Granary Court Business Park
Ffordd yr Orsaf
TALACRE
CH8 9RL
Gallwch ymweld â ni yma:
Granary Court Business Park
Station Road
TALACRE
CH8 9RL
Amserau agor
Oriau swyddfa: 8.30am-4.00pm. Mae oriau agor y ganolfan yn amrywio – edrychwch ar y wefan am fanylion. Ar gau gwyliau banc. Mae archebu lle yn hanfodol.