Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rydym yn darparu gofal i bob plentyn 2 oed a 6 mis - 3 oed. Rydym hefyd yn darparu lleoedd i blant 2 oed ar Dechrau'n Deg (gweler yr ymwelydd iechyd) - - i blant o fewn ardal y Fflint. Gall plant ag anghenion dysgu ychwanegol barhau i wneud cais am le a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu ar gyfer anghenion eich plentyn. Bydd staffio, offer ac unrhyw bethau ychwanegol yn cael eu hystyried i wneud yn siŵr mai ein lleoliad ni yw'r lle gorau i'ch plentyn ac os gallwn ni ddarparu'r gofal cywir.